YMLACIWCH A DADWEINDIWCH GYDA’N TRINIAETHAU SBA.

Y Driniaeth Eithaf i Dylino’r Corff

Mae’r driniaeth ymlaciol hon yn canolbwyntio ar gefn y corff: cefnau’r coesau, y cefn, y gwddf, yr ysgwyddau a’r pen. Rydym hefyd yn defnyddio olewau aromatherapi, a’r rheiny wedi’u teilwra i’ch anghenion penodol chi, pa un a oes arnoch angen ychydig o help a chymorth i ymlacio, ynteu cymysgedd i helpu gydag aelodau a chyhyrau dolurus. Mae hwn yn dyliniad ymlaciol ond gall gael ei deilwra hefyd i anghenion y cleient a gall fod o gymorth, er enghraifft, gyda draenio lymffatig ar gefnau’r coesau.

45 munud £25
60 munud £33

Pecyn Dadwenwyno Blwyddyn y Teigr

Mae’r driniaeth hon yn cynnwys tyliniad awr o hyd, brwsio’r corff, te dadwenwyno ac amser ymlacio. Bydd pob cleient yn cael Pecyn Rhoddion Dadwenwyno Blwyddyn y Teigr ar ôl y driniaeth.

Mae Tyliniad Dadwenwyno’n beth gwych ar gyfer dadwenwyno, lleddfu blinder a lles cyffredinol.

Nid oes pwmp gan y System Lymffatig, felly mae’i swyddogaethau ysgarthu sydd wedi’u bwriadu i sicrhau cydbwysedd dŵr a hybu maethiad, yn ddibynnol ar gyfangiad cyhyrol, anadlu diafframaidd a symudiadau’r corff. Mae’n beth cyffredin datblygu llif lymffatig gweddol araf o ganlyniad i segurdod, bwyta bwyd ac yfed diodydd amhriodol ac yfed llai o ddŵr. Mae’r ffactorau hyn i gyd yn rhoi’r System Lymffatig dan straen.

75 munud £40

Tyliniad Aromatherapi

Mae Tyliniad Aromatherapi’n golygu defnyddio olewau naws wrth dylino’r corff. Wrth i dylino’r corff helpu’r cyhyrau i ymlacio, mae’r olewau a ddefnyddir yn gweithio mewn nifer o ffyrdd; mae aroglau’r olewau’n gweithio ar y system arogleuol a all fod o gymorth i symbylu’r meddwl a lleddfu straen ac mae’r olewau naws yn mynd mor bell â threiddio trwy’r croen, gan weithio ar lefel ddyfnach. Mae hyn yn galluogi’r corff i ymlacio’n llwyr yn gorfforol ac yn feddyliol.

30 munud £25
60 munud £36

Tyliniad Chwaraeon

Mae tyliniad chwaraeon yn dyliniad dyfnach a mwy cadarn na thyliniad aromatherapi. Bydd y technegau a ddefnyddir mewn tyliniad Chwaraeon yn canolbwyntio ar ardal arbennig sy’n achosi problem a bydd yn helpu i wasgaru tocsinau o gyhyrau clymog a thynn ac yn gwella’r cyflenwad gwaed i’r cyhyr a’r ardal y gweithir arnynt. Os ydych yn dioddef poenau yn eich gwddf a thensiwn yn rhan uchaf y cefn am eich bod yn eistedd o flaen sgrîn cyfrifiadur trwy gydol y dydd, yna hon fydd y driniaeth i chi.

40 munud £30

Tylino Ardal sy’n Achosi Problem (e.e. gwddf/ysgwyddau)

Yma gall y cleient ddewis pa ran o’i gorff y mae am iddi gael ei thylino ac wedyn gall gael sesiwn fer arni. Nid oes angen diosg unrhyw ddillad gan fod y tylinwr yn gallu tylino trwy’r dillad. Felly mae hyn yn golygu y gellir tylino’r ysgwyddau neu’r breichiau tra bo’r cleient yn gwisgo’i g/chrys. Bydd y sesiynau hyn yn para tua phymtheng munud, neu hanner awr (gan gynnwys holiadur a pharatoi’r ystafell) a gellir yn rhwydd wneud amser i sesiwn o’r fath yn ystod y dydd.

30 munud £20
30 munud gyda cerrig poeth £25

Tylino Cerrig Poeth

Mae’r therapi hwn sy’n para 45 munud yn canolbwyntio ar y cefn ac mae’n driniaeth wych. Drwy roi’r cerrig poeth ar liain ar y corff a’u trefnu ar hyd canolbwyntiau egni’r corff, mae’n helpu i ymlacio’r cyhyrau a lleihau poen neu anesmwythdra, gan roi hwb i’r broses wella. Mae gosod y cerrig yn rhan o dylino Swedaidd sy’n gallu bod yn ddyfnach a mwy dwys am fod y gwres yn treiddio’r corff ac yn ymlacio’r cyhyrau. Cynigir tylino cerrig poeth hefyd fel triniaeth ar gyfer y corff cyfan am 90 munud.

45 munud £35
90 munud £55

Tylino Beichiogrwydd

50 munud £30

Tylino’r Traed yn y Dull Thai

Tyliniad ymlaciol ac esmwythaol i’r traed er mwyn esmwytho’r cleient a chael gwared ar unrhyw straen. Mae’r tylinwr yn amcanu at ysgogi pwyntiau aciwbigo a lleddfu gwasgbwyntiau ar y droed, gan ddilyn egwyddorion Chi, er mwyn gadael i’r “egni da” lifo a helpu’r corff i ymlacio.

30 munud £18
60 munud £30

Tylino Swedaidd i’r Traed

Dyma’r ffefryn yn ddiau – yn wir, y prif reswm dros agor Year of the Tiger oedd er mwyn darparu triniaeth tylino’r traed o ansawdd da. Pan fydd eich traed yn teimlo’n dda, byddwch chi’n teimlo’n dda hefyd!

20 munud £12
40 munud £20

Adweitheg

Yn yr hen Tsieina roedd adweitheg yn hysbys fel ffordd o atal neu wella salwch ac afiechyd. Eto gan gredu mewn Chi, mae gwneud i egni da lifo trwy’r corff yn eich cadw’n iach a chryf rhag unrhyw salwch. Mae’r un cysyniad yn dal yn bodoli heddiw, ond mae a wnelo’n fwy ag iechyd y corff a helpu’r corff i ymlacio nag atal afiechyd. Gellir rhoi triniaeth adweitheg i bob rhan o’r corff gan fod gan bob rhan wasgbwyntiau a phwyntiau aciwbigo a all “ryddhau Chi da”, ond fel arfer rhoddir triniaeth adweitheg i’r traed a’r dwylo gan mai dyma’r rhannau sy’n cynnwys y mwyaf o bwyntiau y gellir eu symbylu.

60 munud £35

Tylino’r Pen yn y Dull Indiaidd

Mae Tylino’r Pen yn y Dull Indiaidd yn ysgogi cyflwr o lonyddwch a thawelwch. Gall fod yn ymlaciol ac eto’n adfywiol a gall hybu ymdeimlad o les. Mae Tylino’r Pen yn y Dull Indiaidd yn canolbwyntio ar ran uchaf y cefn, y gwddf, yr ysgwyddau, y pen a’r wyneb, a gall helpu â draenio lymffatig, straen ar y llygaid a phroblemau gyda’r sinws. Mae’r cleient yn aros ar ei (h)eistedd yn ystod y driniaeth â’i holl ddillad amdano/amdani.

40 munud £25

Ystod o Driniaethau i’r Wyneb

Mae ein therapyddion wedi derbyn hyfforddiant mewn amrywiaeth o dechnegau tylino’r wyneb. Mae ein cynhyrchion i gyd yn naturiol/organig (dim parabenau). Galwch heibio neu ffoniwch ac fe wnawn ni eich paru â’r therapydd sy’n gweddu orau i’ch anghenion.

45 munud £27
65 munud £35

Garra Rufa

Pysgod bach yw’r Garra Rufa sy’n cnoi croen marw ar eich dwylo a’ch traed. Mae’r driniaeth hon yn boblogaidd iawn yng Ngwlad Thai, a’r hyn sy’n digwydd yw bod Garra Rufa neu “Ffleimbysgod” yn gwaredu croen caled, marw a hynny’n gyflym heb achosi poen. Mae’r cwsmer yn rhoi ei d/thraed neu’i d(d)wylo noeth mewn tanc sy’n cynnwys y pysgod hyn am hyd at 30 munud ar gyfer y traed neu 15 munud ar gyfer y dwylo. Mae’n ddull glân a diogel iawn sy’n dwyn nifer o fanteision i iechyd. Gwyddys fod “Ffleimbysgod” o gymorth mawr i gleifion â phroblemau megis soriasis neu ecsema.

‘Ffleimbysgod’ Garra Rufa – Therapi Dwylo*

15 munud £10

‘Ffleimbysgod’ Garra Rufa – Therapi Traed*

15 munud £12
30 munud £18

Traed y Teigr

Pecyn ‘Ffleimbysgod’ a thyliniad i’r traed neu’r dwylo. * Triniaeth am 15 munud â’r pysgod a thyliniad am 15 munud i ddilyn.

30 munud £20

* Gallwch ddiweddu unrhyw un o’r triniaethau dwylo neu draed â thriniaeth ewinedd am 20 munud a hynny am gost ychwanegolo £8

Triniaeth Heb Ei Rhestru?

Mae gan bob un o’n therapyddion brofiad o ddarparu ystod eang o driniaethau. Os oes triniaeth benodol yr hoffech ei chael holwch yn y dderbynfa os gwelwch yn dda.

Mae pob cleient unigol yn bwysig i ni. Mae gan bob person wahanol anghenion. Bydd pob triniaeth yn cael ei theilwra i’ch anghenion a’ch gofynion.