Yasmin
Helo. Yasmin ydw i. Rwy’n 20 oed ac yn byw yn Nhrecelyn.
Dechreuais weithio yma yn Year of the Tiger ddechrau mis Mehefin ac rwyf wrth fy modd yma. Cymhwysais yn ddiweddar fel Therapydd Harddwch felly rwy’n ffodus iawn i gael swydd yma mor fuan.
Rwyf wedi gweithio mewn amrywiol swyddi, o weithio y tu ôl i’r bar i fod yn Ddosbarthydd mewn Fferyllfa, ac wedi mwynhau gwneud gwahanol bethau. Eto i gyd, rwy’n teimlo mai dyma gychwyn fy ngyrfa ac rwy’n gyffrous iawn am fy nyfodol yma gyda Year of the Tiger.
Ces fy ngeni yng Nghasnewydd ac roeddwn yn byw yng Nghwmbrân tan yn 5 oed cyn i ni symud i Ipswich ac aros yna am 3 blynedd. Symudon ni nôl i Gymru a byw mewn tref fach o’r enw Oakdale, ac es i i’r ysgol yn St Albans ym Mhontypŵl. Arhosais ymlaen yn y chweched dosbarth a dilyn cyrsiau Lefel A mewn Celf, Seicoleg a Bioleg. Ces i amser gwych yna ond pan wnes i gais i fynd i’r brifysgol, ches i ddim lle yng Nghaerdydd sef fy newis cyntaf felly penderfynais ddechrau o’r newydd a gwneud rhywbeth gwahanol.
Mae gen i ddiddordeb hir oes mewn tylino ac arweiniodd hyn at ddechau cwrs Therapi Harddwch yng Ngholeg Ystrad Mynach. Hanner ffordd drwy’r flwyddyn sylweddolais mai dyma oedd y diwydiant i mi felly es ati i wneud fy nghymhwyster lefel 3 sy’n golygu fy mod yn Therapydd Harddwch cwbl gymwys erbyn hyn.
Gallaf ddarparu ystod o driniaethau, gan gynnwys Cerrig Poeth, triniaethau’r wyneb, triniaeth ewinedd y bysedd a’r traed, ewinedd gel, ewinedd Minx, cwyro a’r driniaeth fwyaf cyffrous eto; estyniadau lled-barhaol ar flew’r amrannau. Llwyddodd Mari yn Year of the tiger i gael lle i mi ar y cwrs ‘Marvel Lash’ felly rwy’n ddiolchgar iawn iddi hi am gredu ynof i. ‘Marvel Lash’ sydd ar flaen y gad o ran amrannau ffug sy’n edrych yn naturiol. Maent yn ysgafn dros ben ac ni fyddwch hyd yn oed yn gwybod eu bod amdanoch chi! Gallwch eu cael mor ddramatig ag y mynnwch a gallant bara hyd at ddeufis neu hyd yn oed am byth os cewch fewnlenwadau’n aml. Gall un driniaeth gymryd hyd at 2 awr felly cofiwch hynny wrth ystyried y prisiau! Rwy’n credu bod ein prisiau’n deg ac yn fforddiadwy i bawb.
Am fy mod yn therapydd harddwch ond wedi cael hyfforddiant mewn tylino hefyd, gallaf wneud ychydig o bopeth. Rwy’n mwynhau diwrnodau cymysg o roi triniaethau harddwch a thylino oherwydd bod hyn yn golygu fy mod yn datblygu fy sgiliau o hyd ym mhob therapi.
Mae Year of the Tiger yn lle gwych i fod ac rwy’n falch iawn i fod yn gweithio yma. Rydym ond yn prynu a gwerthu nwyddau sy’n organig, yn rhai masnach deg neu’n rhai a wnaed yng Nghymru. Rydym yn cefnogi busnesau lleol ac ar ben hynny mae 10% o’n holl elw yn mynd i Sefydliad Half the Sky Foundation yn Tsieina; mae’n hyfryd i feddwl ein bod yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl bob dydd, boed hynny drwy elusen neu dylino.
Mae tylino’n grefft fyd enwog ac mae tystiolaeth wyddonol ei fod yn gwella’ch ffordd o fyw. Gall tylino helpu i ymlacio meysydd lle mae’r cyhyrau’n dynn a hyd yn oed eich helpu i gysgu’n well. Rydym hefyd yn cynnig tylino dadwenwyno (neu ‘detocs’) i unrhyw un sy’n ceisio gwella safon eu hiechyd yn gyffredinol. Mae’r tylino detocs yn helpu i symud y gwenwyn a’r gwastraff yn gyflymach drwy’r chwyddau lymff ac o amgylch y corff, gan helpu felly i fwy o ocsigen a maetholion lifo drwy’r gwaed gan wneud i chi deimlo’n iachach a mwy effro. Mae ystod eang o driniaethau ar gael gennym ac rwy’n sicr y dewch o hyd i rywbeth y byddwch yn ei fwynhau!
Gobeithiaf barhau i weithio yma yn Year of the Tiger ac anogaf bob un ohonoch i ymweld â ni am driniaeth. Welwn ni chi’n fuan!
Caroline Pearson
Caroline ydw i. Fe ymunais i â thîm Blwyddyn y Teigr yn fuan wedi i’r sba agor ym mis Tachwedd 2010 ac rwy’n anhygoel o falch i fod yma.
Cefais fy magu yn Aberystwyth ac fe gwblheais fy ngradd gyntaf mewn Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Nottingham. Ar ôl graddio fe ddilynais amrywiaeth o yrfaoedd; o gyd-reoli siop ffasiwn annibynnol fechan i weithio fel is-gogydd bwyd cyflawn yn y Ganolfan Technoleg Amgen. Roeddwn wastad wedi ymddiddori mewn iechyd a lles holistaidd ac yn y diwedd fe symudais i Gaerdydd yn 2008 i astudio’r BSc mewn Therapïau Cyflenwol yn UWIC. Rwyf wedi cwblhau’r tair blynedd gyntaf ac rwy’n gwbl hyddysg mewn tylino holistaidd, adweitheg ac aromatherapi clinigol. Rwy’n dwlu ar y cwrs ac rwyf ar fin cychwyn ar flwyddyn o ymchwil bellach gan archwilio effeithiau triniaethau tylino aromatherapi ar arthritis. Rwy’n gweithio’n rhan-amser yn y sba ar hyn o bryd sydd wedi bod yn gyfle ardderchog i mi gyflenwi’r triniaethau yr wyf wrth fy modd gyda hwy’n feunyddiol.
Mae Blwyddyn y Teigr yn lle gwych i weithio. Mae ethos y sba’n foesegol tu hwnt gyda 10% o’r elw’n cael ei roi i apêl Half the Sky dros gartrefi i blant amddifad yn Tsieina. Rydym hefyd yn cefnogi llu o elusennau yng Nghaerdydd a dim ond cynhyrchion lleol, organig, wedi’u masnachu’n deg yr ydym yn eu defnyddio a’u gwerthu. Rwy’n teimlo’n falch ac yn ffodus tu hwnt fy mod yn gweithio i fusnes sydd mor gywir yn foesol. Mae hefyd yn llawer o hwyl cydweithio â’r pysgod Garra Rufa difyr!
Rwy’n cael mwynhad arbennig o gyflenwi triniaethau tylino yn y sba. Yn ogystal â lleddfu anesmwythder yn y cyhyrau mae triniaethau tylino’n cynnig potensial enfawr ar gyfer rhyddhad ac mae’n therapi gwerthfawr mewn cymdeithas fodern lle mae straen a thensiwn yn rhemp. Mae triniaeth tylino’n bleserus i’w derbyn ac rwy’n ei chael yn hynod foddhaus i’w rhoi gan fy mod yn credu o ddifrif bod gan y math yma o driniaeth y potensial i gyfoethogi lles a hybu’r iechyd gorau posib. Mae’r lefel ymlacio y gellir ei chyrraedd trwy driniaethau tylino’n anhygoel. Mae cleientiaid yn aml yn syrthio i gysgu a gallwch synhwyro’u tensiwn yn diflannu. Mae’n hyfryd gweld cleientiaid yn gadael ar ddiwedd triniaeth wedi ymlacio’n llwyr ac yn fodlon eu byd ac nid oes unrhyw beth sy’n well na theimlo eich bod wedi helpu i ychwanegu mewn modd cadarnhaol at eu diwrnod.
Mae triniaethau tylino’n annog pobl i ymlacio a dod yn un â’u meddwl a’u corff, rhywbeth sydd prin yn digwydd yn ein bywydau prysur yn yr oes fodern. Mae cymryd amser i oedi a deall yr arwyddion y mae’r meddwl a’r corff yn eu cyfleu’n hanfodol i gael yr iechyd meddwl a chorfforol gorau posib ac rwy’n ystyried bod triniaeth tylino’n ddull delfrydol o gyflawni hyn. O’m profiad i fel therapydd rwy’n deall bod straen yn ffactor enfawr sy’n cyfrannu at salwch. Pan fo person dan straen, nid yw systemau’r corff yn gallu gweithio’n effeithiol. Dros amser mae hyn gwneud i chi deimlo’n isel, yn brin o egni ac o ganlyniad yn fwy agored i salwch. Gall derbyn triniaethau therapi cyflenwol rheolaidd leihau straen i raddau helaeth; gan felly hybu’r system imiwnedd a gwella iechyd, hapusrwydd a lles cyffredinol.
Mae’n bleser gweithio yn Sba Iechyd Blwyddyn y Teigr a hoffwn annog pawb sy’n darllen i ymweld a rhoi cynnig ar unrhyw un o’r ystod eang o therapïau a gynigir, oherwydd gallaf sicrhau na chewch chi mo’ch siomi! Gobeithio y gwela i chi’n fuan yn y sba.
Gill Sims-Williams
Gill ydw i, Uwch Therapydd a Rheolwraig Sba Iechyd Blwyddyn y Teigr. Mae gweithio yn y sba’n bleser pur, ac i mi mae bod yn hapus yn fy ngwaith yn rhywbeth sydd o’r pwys mwyaf.
Fe ddes i’n therapydd cymwysedig yn gymharol hwyr yn fy mywyd. Rwyf wastad wedi ymddiddori mewn therapïau cyflenwol/holistaidd ond roedd mynd mor bell â rhoi’r gorau i swydd dda a mynd yn ôl i’r coleg i astudio’n llawn-amser yn benderfyniad mawr. Er fy mod yn hapus yn gweithio ym maes Marchnata, Cysylltiadau Cyhoeddus a Digwyddiadau, a minnau wedi cyrraedd yr adeg dyngedfennol honno yn fy mywyd a throi’n 40, wrth feddwl am wynebu dros 25 mlynedd arall yn gwneud yr un peth, ddydd ar ôl dydd, fe ddechreuais bwyso a mesur pethau o’r newydd, ac fe benderfynais ddechrau’r newid mawr trwy ddilyn cwrs gyda’r nos am flwyddyn, i weld a oedd hyn yn rhywbeth i mi, ac fe sylweddolais ar unwaith ei fod. Y flwyddyn ganlynol, fe roddais i’r gorau i’m swydd ac fe es yn ôl i’r coleg yn llawn-amser.
Roedd bod yn fyfyrwraig hŷn yn rhyfedd i ddechrau ond roeddwn wrth fy modd yn clywed mor ryfeddol yw’r corff dynol, a hyd yn oed yn awr rwy’n cael fy syfrdanu o weld peiriant mor anhygoel ydyw.
"Roedd dysgu pa mor nerthol yw olewau naws hefyd yn agoriad llygad a’r arogleuon a’r aromâu… gwynfyd pur."
Ar ôl fy hyfforddiant cychwynnol fe es i ymlaen i astudio Tylino Chwaraeon am flwyddyn ac yna fe es ymlaen i astudio Adweitheg Uwch am flwyddyn arall. Rwy’n cael cyhyrau a strwythur y corff dynol, yn enwedig y cefn, yn hynod ddiddorol. Trwy arbenigo ym maes chwaraeon fe enillais ddealltwriaeth fanylach am y ffordd y mae’r corff yn gweithio a’r technegau tylino sy’n gallu helpu gyda phroblemau cyhyrol. I mi, nid oes unrhyw beth sy’n well na dod o hyd i gwlwm mawr yn ysgwydd rhywun a helpu i’w lacio a’i waredu! Heb os nac oni bai daeth y Cwrs Adweitheg Uwch y gwnes i ei astudio i fod yn un o’r elfennau pwysicaf o’m hyfforddiant. Mae’r triniaethau tyner a’r ddealltwriaeth am y llifoedd egni yn y corff yn wirioneddol syfrdanol ar adegau. Afraid dweud mai dyma un o’m hoff therapïau.
Ni ddylai adweithegydd da byth bregethu wrth gleient: nid gweithwyr iechyd proffesiynol na phobl dweud ffortiwn mohonom(!). Gall adweitheg helpu gyda rhai cyflyrau ond i mi, rwy’n meddwl ei bod yn gweithio orau wrth drin straen. Mae wir yn helpu rhywun i ymlacio ac mae’n feddyginiaeth wych sy’n lleddfu straen yn yr oes hectig hon yr ydym yn byw ynddi. Rwyf wedi hyfforddi mewn nifer o dechnegau newydd eraill ac un o’r rhai mwyaf diddorol o’r rhain yw Tylino’r Pen yn y Dull Indiaidd. Pan fyddaf yn ddigon ffodus i gael Triniaeth Tylino’r Pen yn y Dull Indiaidd fy hun, rwy’n fy nghael fy hun yn hofran i ryw ddimensiwn arall. Ond y peth rhyfedd yw, er cymaint yr wyf yn mwynhau cael triniaethau holistaidd fy hun, mae’n rhoi mwy o foddhad i mi roi’r triniaethau hynny i eraill.
Rwyf bellach yn gweithio yn lleoliad hyfryd a gwirioneddol holistaidd Sba Iechyd Blwyddyn y Teigr ychydig o ddiwrnodau’r wythnos yn ogystal â gweithio gyda rhai cleientiaid preifat a chadw fy nhraed yn y dŵr gyda byd marchnata a digwyddiadau!