Cynhyrchion
Mae gennym gynhyrchion Masnach Deg a chynhyrchion lleol ar werth a chaiff rhoddion eu lapio am ddim.
Mae gemwaith Kendall Davies wedi’i wneud o arian, copr, pres ac efydd ac mae gan y cwmni nifer o forthwylion wedi’u haddasu sy’n cynhyrchu ystod eang o weadau ar gyfer arwynebau. Mae hyn yn sicrhau bod pob darn yn unigol ac wedi’i saernïo’n ofalus. Mae Kendall Davies wedi’i leoli ym Maesteg.
Talebau Rhodd
Mae Talebau Rhodd ar gael ar gyfer pob triniaeth a gynigir gennym. Ffoniwch i archebu neu codwch hwy yn y sba.