Beth Yw Garra Rufa?
Pysgod trofannol bychain yw Garra Rufa sy’n byw ym masnau afonydd Twrci, Syria, Iran ac Irac. Maent yn byw ac yn bridio’n naturiol yn sbaon dŵr poeth Twrci ac yma y canfuwyd eu priodweddau rhyfeddol ar gyfer trin y croen.
Beth maen nhw’n ei wneud?
Mae Garra Rufa’n debyg i wrach y môr. Maent yn bwyta croen amharedig a marw, gan alluogi’r croen iach sydd ar ôl i ffynnu. Maent yn cnoi eich traed a’ch dwylo’n ysgafn, gan waredu darnau garw a rhoi triniaeth glanhau dwfn. Wedi hynny bydd eich croen yn teimlo wedi’i ailfywiogi a’i feddalu. Caiff Garra Rufa eu hadnabod fel “Ffleimbysgod” (“Doctor Fish” yn Saesneg) oherwydd gyda thriniaeth reolaidd gallant ddwyn gwelliant mawr i gyflyrau megis soriasis ac ecsema.
Mae tyliniad ar ôl eich triniaeth Garra Rufa’n ategu’r glanhau dwfn gan y pysgod trwy sbarduno cylchrediad y gwaed a symbylu gwasgbwyntiau aciwbigo.
Beth Am Les y Pysgod?
Mae lles ein pysgod yn brif flaenoriaeth gennym. Mae ein staff wedi cael hyfforddiant llawn gan OATA (Ornamental Aquatic Trade Association) mewn Ansawdd Dŵr a Hidlo Dŵr ar gyfer pysgod trofannol. Rydym yn defnyddio’r nifer lleiaf o Garra Rufa ar gyfer pob triniaeth i sicrhau nad oes byth ormod ohonynt yn y dŵr gyda’i gilydd. Caiff y pysgod eu cylchdroi’n rheolaidd fel bod pob pysgodyn yn gorffwys am 24 awr ar ôl pob sesiwn driniaeth. Caiff ein tanciau eu glanhau a’u monitro’n ofalus i sicrhau bod y Garra Rufa’n byw yn yr amodau gorau posib.
Bydd yr holl gwsmeriaid yn cael golchi eu traed ymlaen llaw i sicrhau nad ydynt yn cynnwys gweddillion cynhyrchion megis lleithydd neu doddwr farnais ewinedd a allai niweidio’r pysgod.
Dim ond gan fridiwr lleol sydd wedi’i gofrestru ag OATA yr ydym yn prynu Garra Rufa.
Rydym yn un o’r ychydig sbaon yn y DU sy’n rhoi’r fath sylw i les ein pysgod.
Beth Am Hylendid?
Mae pob cleient yn cael tanc triniaeth unigol ar gyfer ei d/thriniaeth. Mae’r pysgod a ddefnyddir ar gyfer y driniaeth hon yn cael eu rhoi mewn cwarantin am 24 awr wedi hynny i sicrhau nad oes unrhyw groeshalogi rhwng cwsmeriaid. NID YDYM yn caniatáu i gwsmeriaid rannu tanciau.
Ni fydd cwsmeriaid a chanddynt ferwcau neu darwden y traed yn cael defnyddio’r driniaeth traed Garra Rufa.