Mae Blwyddyn y Teigr yn sba iechyd nad oes mo’i debyg, sy’n cynnig triniaethau a ddatblygwyd yn y Dwyrain Pell ac sy’n helpu i leddfu straeniau bywyd y Gorllewin.
Caiff Blwyddyn y Teigr ei staffio gan therapyddion profiadol sy’n arbenigwyr ar yr holl ystod o dechnegau tylino’r corff a thriniaethau eraill y profwyd eu bod yn helpu’r corff i ymlacio ac yn gwella ansawdd bywyd.