YNGLŶN Â SBA IECHYD BLWYDDYN Y TEIGR

Yn y Dwyrain mae triniaethau ymlacio’n ffordd o fyw; maent yn rhan o orchwylion beunyddiol i ddadweindio ar ôl diwrnod prysur yn y gwaith, i drin poenau, neu i gymdeithasu â ffrindiau a chydweithwyr busnes. Mae’r triniaethau’n rhai uchel eu hansawdd ond yn rhai cost-isel. Mae tyliniad yn y Dwyrain yn cyfateb i ddiod hamddenol ar ôl gwaith yn y Gorllewin. Rydym ni yn Sba Iechyd Blwyddyn y Teigr yn awyddus i gyflwyno’r athroniaeth fywyd hon i chi.

Rydym yn arbenigo mewn therapi traed yn ogystal ag ystod eang o driniaethau tylino safonol. Gall traed poenus effeithio ar eich bywyd a’ch lles cyffredinol. Rhyngddynt mae ein therapyddion yn cynnig Technegau Thai Traddodiadol ar gyfer Tylino’r Traed a Thechnegau Adweitheg Uwch y gellir eu hategu â’n therapi pysgod arbenigol. Mae’r cyfuniad hwn yn cynnig ffordd o ymlacio ar yr un pryd â gofal am eich traed, sy’n cael eu gorweithio ac sy’n cynnal eich pwysau!

Mae ein triniaethau ymlacio’n fforddiadwy ac yn effeithiol. Ein nod yw sicrhau bod y triniaethau hyn yn dod yn ffordd o fyw ac nid dim ond yn rhywbeth moethus. Gallwch hefyd ymlacio gan wybod bod ein polisi moesegol yn golygu nid yn unig bod ein cynhyrchion i gyd yn rhai Masnach Deg ac yn rhai lleol, ond hefyd bod 10% o’n helw’n mynd tuag at apêl Half the Sky sy’n cefnogi cartrefi i blant amddifad yn Tsieina.

Mae ein staff yn therapyddion profiadol ac yn arbenigwyr yn yr holl ystod o dechnegau tylino holistaidd a thriniaethau eraill y profwyd eu bod yn helpu’r corff i ymlacio ac yn gwella ansawdd bywyd. Mae gennym hefyd reolwr bywyd dyfrol hyfforddedig er mwyn sicrhau ein bod yn gofalu am ein Garra Rufa ac mae gennym system gwarantin sy’n rhoi digon o orffwys i’r pysgod rhwng pob triniaeth ac mae’r cwsmer wastad yn cael dŵr glân a physgod sydd wedi cael gorffwys da.